Storiel - Arddangosfeydd Gaeaf 2020
Arddangosfeydd Newydd 2020
SAIN - Dathlu 50
Mae SAIN wedi bod yn gyfeiliant i fywydau pobl Cymru ers diwedd y 60au, a’r gerddoriaeth a’r caneuon yn drac sain i gyfnodau amrywiol yn ein hanes – mae gan bawb ei stori, ac yn aml, mae cân i gydfynd â’r stori honno.
Wedi hanner canrif o recordio a chyhoeddi, dyma archif sy’n drysor cenedlaethol, ac yn rhan bwysig iawn o ddiwylliant a threftadaeth Cymru – arddangosfa yn amlygu peth o’r hanes dros yr hanner can mlynedd ddiwethaf.
11 Ionawr - 18 Ebrill
Paul Davies - ‘Welsh Not’ Rhan 2
Rhan 2 o arddangosfa ôl-syllol o waith Paul Davies. Yn dangos eitemau nis gwelwyd o’r blaen, gyda ffocws ar y llwy garu WN eiconig, rhan o berfformiad ar faes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1977.
Paul Davies oedd y grym yn gyrru Beca.
Gyda Peter Davies ac Adrian Williams
25 Ionawr - 28 Mawrth
‘1970 +’
Stori fer o’r casgliad…
Detholiad o waith celf o gasgliad STORIEL sy’n dyddio o’r 1970au.
Gyda gwaith gan:
Michael Cullimore, Anthony Goble, Selwyn Jones, Selwyn Jones - Hughes, Alan McPherson, Betty P Neale, Clive Walley
25 Ionawr - 28 Mawrth
Cadwch ar Gau
A yw Amgueddfeydd yn adlewyrchu’r hyn sy’n digwydd o fewn y gymdeithas?
A ydynt yn rhoi adlewyrchiad cywir o faterion pwysig yn ymwneud â hunaniaeth bersonol, rhywedd, gwahaniaethu, a newid gwleidyddol a chymdeithasol?
Sut caiff ‘heddiw’ ei ddylanwadu gan y gorffennol?
Mae’r arddangosfa hon yn bwrw golwg dros bynciau tebyg yng nghasgliadau Storiel.
23 Tachwedd 2019 - 21 Mawrth 2020
Fictoria yn Storiel
Dillad oedd yn perthyn i’r Frenhines Fictoria hefo tecstiliau a gwisgoedd eraill o gyfnod Fictoria.
Bydd dillad oedd yn perthyn i’r Frenhines Fictoria hefo tecstilau a gwisgoedd eraill o gyfnod Fictoria yn cael eu harddangos yn Storiel o’r 17 o Hydref.
17 Hydref 2019 - 29 Chwefror 2020