Be sy’ mlaen?

Gŵyl Gofalwyr Arlein




Fel cydnabyddiaeth am y cyfraniad a’r gwaith mae gofalwyr Gwynedd yn rhoi i’n cymdeithas, mae Rhwydwaith Gofalwyr Gwynedd wedi penderfynu trefnu Gŵyl Gofalwyr arlein am dair wythnos yn ystod mis Awst.

Mae gofalwyr yn haeddu brêc, yn arbennig yn ystod y pandemig hwn lle nad yw’n bosib iddyn nhw dderbyn y gefnogaeth allanol y maen nhw wedi arfer ei gael. Mae’r ŵyl yn agored i bawb oherwydd bod ‘pob un ohonom yn mynd i ofalu ryw dro’.

Mae ‘na dair thema i’r Ŵyl: Gwybodaeth, Hwyl a Llesiant, gyda phwyslais mawr ar Hwyl! Rydym yn gobeithio y bydd rhywbeth yn apelio at bawb, a rydym yn edrych ymlaen i groesawu pawb i Ŵyl Gofalwyr Arlein – agored i bawb.

Cliciwch yma am mwy o wybodaeth ac amserlen llawn