Newyddion

Arddangosfa newydd Oriel Ysbyty Gwynedd - GISDA



Oriel Ysbyty Gwynedd

GISDA

Falch iawn i arddangos gwaith gan bobl ifanc Gwynedd gyda chefnogaeth GISDA. Mae’r prosiect hwn, ‘Celf mewn Natur’, yn dod o brosiect ar y cyd ag ICAN GISDA sydd wedi’i ariannu gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Roedd y prosiect Celf mewn Natur yn gwahodd pobl ifanc sy’n wynebu heriau iechyd meddwl i fynegi eu hunain trwy gelf.

Mae GISDA yn elusen sy’n darparu llety, cefnogaeth a chyfleoedd i bobl ifanc 16-25 digartref a/neu bregus yng Ngwynedd i’w galluogi i symud o gefnogaeth i annibyniaeth. Ein gweledigaeth yw fod bob person ifanc yng Ngwynedd yn gallu byw bywydau diogel a hapus yn rhydd o anfantais ac annhegwch.

Diolch yn fawr i Malan a Lynwen am redeg y prosiect, gweithio gyda’r bobl ifanc a churadu’r arddangosfa.

Diolch yn fawr i Anthony Morris am ei gymorth i gosod yr arddangosfa.

Bydd ei harddangosfa yn cael ei harddangos yn nerbynfa Ysbyty Gwynedd tan ddiwedd mis Tachwedd

Dysgu mwy am y waith mae GISDA yn neud yma