Ariel Rig newydd i Circoarts
Ariel Rig newydd i Circoarts, yn Y Festri Llanberis
‘Fe caethom ni Ariel Rig gyda diolch enfawr i’r National Grid ariannu’r prosiect ac rhoid £19,6000 iddym ir project £28,000 yma hwn gyda cefnogaeth gan Y Festri. (See next post for English) Mae wedi bod yn freuddwyd ers oesoedd ac mae bellach wedi rhoi yn realiti.
Roedd Stage Concepts yn hynod amyneddgar yn dylunio’r ffrâm gyda ni i’w ffitio’n berffaith i’r Festri. Roeddem yn gallu prynnu offer Ariel, cylchau hwp a thrapîs a’r holl offer rigio a diogelwch eraill i ddechrau rhedeg dosbarthiadau Ariel yn rheolaidd yn ein cymuned. Roedd y grant yn cynnwys hyfforddiant gan arbenigwr anhygoel Simon Edwards o Nant Peris death o i mewn am 2 ddiwrnod i redeg cwrs diogelwch rigio Ariel ac yn fuan byddwn yn rhedeg sesiynau Ariel i dysgu yr gynorthwyr ac athrawon i dysgu sut i dysgu yr disgyblion dan ofal yr artist, hyfforddwr a rigiwr talentog lleol Ethan Kith.
Rydym am osod safon uchel fel y gallwn feithrin gallu a rhoi sgiliau unigryw i ein cymuned, gan gynyddu cyfleoedd lleol mewn addysgu, hyfforddi a pherfformio. Rydym yn priodi hanes y chwarelwyr oedd estalwm yn gweithio’n uchel ar raffau gyda’r diwylliant o dringwyr di-ofn, ond yn ei wneud o yn greadigol a hardd. Gwyliwch y lle yma i weld sut mae’r prosiect hwn yn tyfu. Yn fuan iawn byddwn yn cyhoeddi dosbarthiadau cymorthdaledig ar gyfer dechreuwyr ac uwch - i plant, pobl ifanc ac oedolion. ‘