Newyddion

Dadorchuddio Tapestri Cricieth



Daeth tua 200 o bobl i noson gymunedol yn Neuadd Goffa Cricieth ar 25 Mawrth 2023 i weld ffilm a dadorchuddio ail Tapestri Criccieth.

Mae’r gwaith aml-gyfrwng sy’n mesur dros 4m yn darlunio adeiladau yn Stryd y Felin a Stryd y Castell ac yn cynnwys technegau crosio, gwau, rygio a brodwaith.

Mae’n ganlyniad 10 mis o waith gan 22 o wirfoddolwyr ac yn dilyn ymlaen o dapestri cyntaf Marine Terrace a gafodd ei ddadorchuddio ar gyfer canmlwyddiant Neuadd Goffa Cricieth yn haf 2022.

Mae’n rhan o waith cymunedol creadigol Cyngor Tref Cricieth o dan faner Cricieth Creadigol-Creative Criccieth, sydd wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol gyda Gwobr Bywydau Creadigol yn 2021 ac a gyrhaeddodd restr fer Gwobrau 2022.

Darllem mwy yma