Newyddion

Adroddiad newydd yn amlygu budd economaidd buddsoddi yng nghelfyddydau Cymru



Adroddiad newydd yn amlygu budd economaidd buddsoddi yng nghelfyddydau Cymru - lle mae pob punt a wariwyd yn rhoi £2.51 yn ôl i’r economi

Mae adroddiad newydd comisiynwyd gan Cyngor Celfyddydau Cymru yn dangos bod yr arian y mae’n ei ddosbarthu ar ran Llywodraeth Cymru yn dod â budd economaidd sylweddol i Gymru benbaladr.

Heddiw mae cyhoeddi’r Adroddiad am Effaith Economaidd Cyngor Celfyddydau Cymru. Cwmni Deyton Bell, arbenigwyr ymchwil annibynnol, sydd wedi’i lunio. Mae’n manylu ar yr effaith economaidd sylweddol y mae’r celfyddydau yn ei chael ar economi a swyddi Cymru. Mae naw deg dau y cant o’r cyllid y mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ei dderbyn yn cael ei ddosbarthu sefydliadau ac unigolion creadigol ledled Cymru.

Mae’n ymchwil Deyton Bell yn dangos:

Yn 2023/24, am bob punt gyhoeddus a gawsom, aeth £2.51 yn ôl i’r economi

Bod 92% o’r arian yr ydym yn ei dderbyn yn cael ei ddosbarthu ledled y wlad gan ddod â buddion i bob cymuned

Bod gan ddiwydiant celfyddydau a diwylliant Cymru drosiant o £1.64 biliwn yn 2023/24

Bod cyflogaeth yng nghelfyddydau, diwylliant a diwydiannau creadigol Cymru dros y degawd diwethaf wedi cynyddu gan 28%, o 28,900 yn 2014 i’r lefel a adroddwyd ar hyn o bryd sef 36,960 o swyddi

Bod ein dull o ariannu dros y ddwy flynedd ddiwethaf ar ôl y pandemig wedi gwella’n sylweddol ein heffaith economaidd, o £1.01 am bob punt yn 2021/22 (wrth i’r sector adfer o ddinistr y pandemig) i £2.51 am bob punt yn 2023/24

Dysgu mwy am yr adroddiad effaith economaidd yma