Newyddion

Hyfforddiant Therapi Celf.



Hyfforddiant Therapi Celf.

I gymhwyso fel therapydd celf mae angen astudio cwrs MA Therapi Celf gan raglen hyfforddi sydd wedi ei gymeradwyo gan Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal. Dylai ymgeiswyr am hyfforddiant therapi celf fel arfer fod yn raddedigion mewn celf a dylunio, ond rhoddir ystyriaeth i athrawon cymwysedig, gweithwyr cymdeithasol, seicolegwyr a gweithwyr proffesiynol eraill sydd ag ymrwymiad i’r celfyddydau gweledol yn ogystal. Mae’r hyfforddiant ar gael yn rhan amser dros gyfnod o dair blynedd ac ar sail llawn amser am ddwy flynedd.

Mae ymarfer fel therapydd celf yn gallu bod yn waith heriol a sensitif, felly mae gofyn i ymgeiswyr fod yn bobl aeddfed a hyblyg. Yn arferol mae’r hyfforddiant yn cynnwys gwaith theori, lleoliadau clinigol, arolygaeth, ymchwil, gwaith celf a mynychu therapi celf personol. I ddarllen mwy am sut i hyfforddi ac ym mhle mae’r cyrisau yn cael eu cynnig dilynwch y ddolen gyswllt yma (Saesneg yn unig) … https://www.baat.org/Careers-Training

Mae The British Association of Art Therapists yn cynnig cyrsiau cyflwyno (un diwrnod) a chyrsiau sylfaen (5 diwrnod) yn y maes, mae mynychu yn gallu bod o help i ddysgu mwy am y maes cyn ymrwymo i gwrs MA llawn, cliciwch yma am fanylion cyrsiau cryno sydd ar gael https://www.baat.org/…/Introduction-and-Foundation-Courses**