Newyddion

Llywodraeth Cymru: Arolwg o ddarparwyr gofal plant, chwarae a gweithgareddau i blant yng Nghymru



Llywodraeth Cymru: Arolwg o ddarparwyr gofal plant, chwarae a gweithgareddau i blant yng Nghymru

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn rhan o’r Grŵp Llywio sy’n adolygu’r mater hwn ac yn annog sefydliadau i ymateb i’r arolwg

Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu’r Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd, sy’n eithrio rhai darparwyr gofal plant, chwarae a gweithgareddau yng Nghymru, rhag gorfod cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd.

Mae darparwyr gweithgareddau celfyddydau gweledol a chelfyddydau perfformio i blant ymhlith y rhai sydd wedi’u heithrio ar hyn o bryd rhag gorfod cofrestru gydag AGC. Mae’r eithriad hwn yn cael ei adolygu ac mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am adborth gan ddarparwyr y gweithgareddau hyn. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn rhan o’r Grŵp Llywio sy’n adolygu’r mater hwn ac yn annog sefydliadau i ymateb i’r arolwg hwn ac i’w rannu gyda’u rhwydweithiau.

Dysgu mwy yma

Bydd yr arolwg hwn yn cymryd tua 15 munud i’w gwblhau a bydd ar gael tan 08/11/2024

Cwblhau’r arolwg yma