Newyddion

Mae Cwmni Theatr Bara Caws am adleoli i Benygroes fel rhan o Ganolfan Lleu, Hwb Iechyd a Lles newydd Dyffryn Nantlle



Cyfle cyffrous i gyfrannu at gynllun arloesol.

Mae Cwmni Theatr Bara Caws am adleoli i Benygroes fel rhan o Ganolfan Lleu, Hwb Iechyd a Lles newydd Dyffryn Nantlle.

Rydym yn edrych am Reolwr Prosiect i gyd-lynnu gwaith y Cwmni gyda’r partneriaid strategol eraill.

Os am ddatgan ddiddordeb gyrrwch e-bost i gwybodaeth@theatrbaracaws.co.uk

Bydd rhagor o wybodaeth am y cytundeb a’r manylion ymgeisio yn cael eu rhyddhau yn fuan.