Newyddion

Mae Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru bellach wedi sicrhau statws Safle Treftadaeth y Byd gan Bwyllgor UNESCO



Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru yw’r lleoliad diweddaraf yn y DU i ddod yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, ar ôl derbyn yr anrhydedd heddiw, yn sesiwn rhif 44 Pwyllgor Treftadaeth y Byd.

Y dirwedd yw’r 33ain safle o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn y DU, a’r pedwerydd yng Nghymru, gan ddilyn Traphont Ddŵr Pontcysyllte, Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon a Chestyll a Muriau Trefi Edward I yng Ngwynedd.

Roedd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, sy’n ymestyn drwy sir Gwynedd, ar flaen y gad o ran cynhyrchu ac allforio llechi yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae llechi wedi cael eu cloddio yn yr ardal am dros 1,800 o flynyddoedd ac wedi cael eu defnyddio i adeiladu rhannau o gaer Rufeinig Segontiwm yng Nghaernarfon a chastell Edward I yng Nghonwy. Fodd bynnag, dim ond yn ystod y Chwyldro Diwydiannol y gwelwyd cynnydd yn y galw wrth i ddinasoedd ledled y byd ddatblygu, gyda llechi o chwareli Gwynedd yn cael eu defnyddio’n eang ar doeau cartrefi gweithwyr, adeiladau cyhoeddus, mannau o addoliad a ffatrïoedd.

Erbyn y 1890au, roedd y diwydiant llechi yng Nghymru yn cyflogi oddeutu 17,000 o weithwyr ac yn cynhyrchu bron i 500,000 tunnell o lechi y flwyddyn, oddeutu traean o’r holl lechi toi a ddefnyddiwyd yn y byd ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cafodd y diwydiant effaith enfawr ar bensaernïaeth fyd-eang, gyda llechi o Gymru yn cael eu defnyddio ar nifer o adeiladau, terasau a phalasau ar draws y byd, gan gynnwys Neuadd San Steffan yn Nhŷ’r Senedd yn Llundain, yr Adeilad Arddangos Brenhinol, Melbourne, Awstralia a Neuadd y Ddinas Copenhagen, Denmarc. Yn 1830, roedd hanner yr adeiladau yn Efrog Newydd wedi’u toi â llechi o Gymru.

Gweddnewidiwyd tirwedd yr ardal ar raddfa enfawr gan ganrifoedd o fwyngloddio, ac mae’r arysgrif yn adlewyrchu’r rôl bwysig a chwaraeodd y rhanbarth hwn yn ‘rhoi to ar fyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg’.