Newyddion

Mwy o Wybodaeth am Therapi Celf



Diolch yn fawr iawn am ddarllen y wybodaeth am therapi celf yr wythnos hon. ‘Da ni’n gobeithio ei fod wedi bod yn fuddiol a diddorol. Efallai ein bod wedi’ch ysbrydoli i fynychu therapi celf am gefnogaeth neu ystyried hyfforddi yn y maes? Mae therapi celf yn faes difyr a chynhwysfawr, a dim ond blas yr ydym wedi gallu ei rannu â chi’r wythnos yma. Felly, i gloi, dyma rannu rhestr o linciau i wybodaeth bellach rhag ofn eich bod yn awyddus dysgu mwy am y maes, rhyw fath o restr ‘Top Ten’ o linciau diddorol wedi eu hargymell gan Gwawr, mwynhewch!

(Saesneg yn unig)

Fideo YouTube - Art as Empowerment: The Virtue of Art Therapy, Ann Lawton

Dysgwch am brofiadau pobl sydd wedi derbyn therapi celf

Rhestr o lyfrau i’w darllen cyn ymgeisio i hyfforddi, Prifysgol Caer

Chwilio am therapydd celf? Edrychwch ar wefan BAAT. Yn ogystal a sesiynau wyneb yn wyneb mae sawl therapydd yn cynnig sesiynau rhithiol bellach

Ystyried cyflogi therapydd celf yn eich sefydliad? dysgwch fwy am y buddion yma

Fideo am yrfa ym maes therapi celf yn yr NHS

Gwefan BAAT – The British Association of Art Therapists sy’n llawn gwybodaeth ddefnyddiol a dilynwch BAAT ar eu platfforumau cyfryngau cymdeithasol.

Gwybodaeth therapi celf ar wefan yr GI

Sianel YouTube BAAT, yn llawn dop o fideos difyr

Os am weithio gyda therapydd celf gwnewch yn siwr eu bod wedi cofrestru â’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal er eich diogelwch, gallwch wiro’r gofrestr o therapyddion yma

Diolch!