Newyddion

Pontio a Chyngor Dinas Bangor yn cyflwyno... UN SEREN | BANGOR



Dros yr wythnosau diwethaf mae Pontio, ar y cyd â Chyngor Dinas Bangor, wedi bod yn cydweithio ar ffilm Nadolig sy’n dathlu Bangor. Rydym wedi derbyn cyfraniadau gan llu o fusnesau, sefydliadau, cymunedau a chwmnïoedd ym Mangor.

Fe weithiodd y gantores Alys Williams gydag Elise Jones, cantores ifanc o Fangor, i ddod â’r gymuned ynghyd i ddathlu Nadolig sy’n wahanol iawn inni gyd, ac i orffen 2020 ar nodyn uchel! Dyma fersiwn Elise o’r gân Un Seren gan Delwyn Siôn.

Wrth greu y ffilm hon, dilynwyd rheolau pellter cymdeithasol a chadw at ganllawiau’r Llywodraeth

Cliciwch yma i’w weld