Ta Ta 2020
WEL, AM FLWYDDYN!
Dechreuodd hi gyda chlec ôl-apocalyptaidd ac mae’n gorffen gyda thân yn ein boliau, gobaith a chyffro.
Darllenwch mwy am ein blwyddyn eithriadol, gan gynnwys…
// Taith genedlaethol lwyddiannus o Llyfr Glas Nebo
// Cyflogi 109 o artistiaid llawrydd
// 14,292 wedi gweld ein gwaith
// 4,133 wedi cymryd rhan yn ein gweithgareddau
// 7 comisiwn theatr newydd
// Datblygu cartref newydd £3.8m ym Mangor
Wrth i ni baratoi i ffarwelio â 2020, edrychwn yn ôl â balchder yn yr hyn yr ydym wedi llwyddo i’w gyflawni gyda chefnogaeth ein harianwyr, artistiaid talentog a’n pobl ifanc anhygoel.