Be sy’ mlaen?

Cwmwl Tystion III / Empathy




Cwmwl Tystion III / Empathy

Mae’r trwmpedwr Tomos Williams yn dychwelyd i Pontio gyda’r drydedd, a’r bennod ola’ yn ei brosiect Cwmwl Tystion.

Yn ymchwilio i hanes ac hunaniaeth Cymru, i gyfeiliant celf-weledol fyw, bydd yn noson o gerddoriaeth gwreiddiol, unigryw Gymraeg.

Yn dilyn perfformiadau yn 2019 ac 2021, mae Tomos unwaith eto wedi ymgynull casgliad rhyfeddol o gerddorion ar gyfer Cwmwl Tystion III / Empathy. O Gymru bydd Mared Williams ac Eadyth Crawford yn canu, ar y gitâr bydd Nguyên Lê o Ffrainc/Vietnam a bydd y cawr Melvin Gibbs, o Efrog Newydd ar y bâs. Bydd Tomos ar y trwmped, a Mark O’Connor ar y dryms ochr yn ochr ag effeithiau gweledol byw gan Simon Proffitt.

Mae Melvin Gibbs a Nguyên Lê yn adnabyddus ledled y byd ac mae’n dipyn o gamp iw denu i Gymru – arwydd o safon a gweledigaeth y prosiect.

Bydd y band yn perfformio cerddoriaeth newydd sy’n cynnwys elfennau o jazz, rock, yr avant-garde a cherddoriaeth werin Gymreig. Mae’r enw ‘Cwmwl Tystion’ yn deillio o gerdd y bardd Waldo Williams a bydd y gerddoriaeth hefyd yn ystyried themâu yn deillio o hanes Cymru a’n hunaniaeth.

Noddir y cyfansoddiad ‘Cyfres Cwmwl Tystion’ gan Dŷ Cerdd, a gwnaethpwyd y daith yn bosibl yn sgil cefnogaeth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Nos Iau 30 Mai

7.30pm

Theatr Bryn Terfel

Safonol: £15

Dros 60 / dan 18 / myfyrwyr: £13

Tocynnau yma