Be sy’ mlaen?

My People - sioe newydd ar-lein!




My People gan Caradoc Evans… ar-lein!

Straeon pwerus yn dangos rhagrith, llymder, a chreulondeb mewn cymuned anghydffurfiadol yng Ngorllewin Cymru.

Cyhoeddwyd My People yn 1915, a cawsant eu disgrifio fel ‘the literature of the sewer’; galwyd Evans yn fradwr i’w wlad a cafodd y llyfrau eu llosgi yn y stryd. Yn Llundain, cafodd ei gymharu â Zola, Gorky, a Joyce, a dywedodd Dylan Thomas bod ‘the great Caradoc Evans’ yn ddylanwad mawr arno.

Mae Caradoc Evans, ‘the best hated man in Wales’, yn plethu cywirdeb newyddiadurol a gwylltineb cymdeithasol gyda rhwydwaith o gymeriadau a sefyllfaoedd, wrth drafod cymuned, crefydd, ac anghyfiawnder.

Can mlynedd ar ôl cyhoeddiad llyfr mwyaf dadleuol Cymru, mae addasiad Steffan Donnelly ac Invertigo mewn cyd-gynhyrchiad â Theatr Clwyd yn dathlu dychymyg ffyrnig My People ar lwyfan am y tro cyntaf…a rwan ar-lein!

Sioe Gyflawn ar gael o Gwener 19 Mehefin am bythefnos ar invertigotheatre.co.uk