Be sy’ mlaen?

Sinema Pontio




28 Hydref - 1 Tachwedd

Yn arferol amser yma o’r flwyddyn mi fyddai Sinema Pontio wedi bod yn cydweithio yn agos gyda Sinema Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Gŵyl Abertoir er mwyn trefnu noson o ffilmiau arswyd ar eich cyfer i ddathlu Calan Gaeaf. Yn anffodus, nid yw’n bosib inni wneud hynny eleni, felly, bydd holl ddigwyddiadau Gŵyl Abertoir arlein.

Rydym yn falch iawn o ddweud bod tîm gweithgar yr ŵyl Aberystwyth, dan arweiniad Gaz, Nia a Rhys wedi llwyddo i greu a chynnig rhaglen arbennig iawn o ffilmiau, sgyrsiau a digwyddiadau ar gyfer selogion y ffilm arswyd i’w wylio gartref.

Hoffai Pontio eich annog i bori yn y rhaglen trwy glicio ar y linc yma - www.abertoir2020.co.uk

Mae’n bosib prynu tocyn ar gyfer yr ŵyl gyfa’ neu ddewis tocynnau ar gyfer ffilmiau unigol.