Be sy’ mlaen?

Carrying on Conference




Ymunwch â Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd mewn cynhadledd ar-lein arbennig i rannu llwyddiannau a heriau’r cyfnod COVID. Mae’r pandemig wedi cael effaith sylweddol ar y celfyddydau ac yn parhau i wneud hynny. Dewch i glywed am sut mae rhai o fudiadau celfyddydol Gwynedd wedi addasu eu darpariaeth gan gynnwys Canolfan Gerdd William Mathias, Pontio, Fran Wen, Dawns i Bawb ag eraill.

Cliciwch yma i mynd i tudalen y digwyddiad ar Facebook

Cawn hefyd glywed am sut mae’r awdurdod lleol a Chyngor Celfyddydau Cymru yn cefnogi’r sector, a dewch yn rhan o drafodaeth am sut gall y celfyddydau ddal ati yng nghanol yr holl heriau mae COVID yn ei achosi. Mae’r gynhadledd hon yn agored i bawb o bob rhan o Gymru a thu hwnt. Mae’n rhad ac am ddim ac yn cael ei gynnal yn ddwyieithog. I archebu lle dilynwch y linc yma i gofrestru…

Eventbright Dal i Fynd