Be sy’ mlaen?

Seiniau ar gyfer Tŷ Gwag




llif byw 24 awr o seiniau wedi eu creu gydag ac o Plas Bodfa, Ynys Môn gyda 24 o artistiaid sain, pobl greadigol a grwpiau o Gymru

Llif byw

Dydd Sadwrn, 26 Mehefin, yn ddechrau ar godiad haul (05:00)

yn fyw am 24 awr tan

Dydd Sul, 27 Mehefin, yn gorffen ar godiad haul (05:00)

Gwrando: www.tinyurl.com/w7r447cs

Mwy o wybodaeth: www.plasbodfa.com/seiniau-ar-gyfer-ty-gwag

Maenordy 100 oed, ar hyn o bryd yn wag o drigolion dynol, ond ymhell o fod yn dawel. Mae ei strwythur yn sianelu gwyntoedd trwy bibellau draenio, gan greu sibrydion bariton. Mae bylchau yn y llechi to yn caniatáu i fyrstiau bychain o aer i ddod i mewn ac afradloni’n feddal i mewn i wagleoedd atsain. Mae teulu ffidgety o jac-y-dos yn byw mewn un atig eang, tra bod ystlumod yn anheddu un arall yn dawel. Mae dŵr yn diferu trwy ddraeniau nas gwelwyd o’r blaen. Mae panel wedi’i ymylu â thâp wedi cracio yn allanadlu. Mae fent yn fflapio. Rhywbeth, rhywle yn caeadu.

Rhan 1: Bydd seiniau a grëir gan y tŷ ei hun a’r ardal gyfagos yn cael eu cymysgu’n fyw, eu hestyn a’u trin gan artistiaid sain a phobl greadigol leol a wahoddir yn ystod llif byw 24 awr.

Rhan 2: Bydd recordiadau o’r ffrwd hon, ynghyd â seiniau o’r tŷ mewn tywydd amrywiol, ar gael i bobl greadigol ledled y byd i’w defnyddio wrth gyfansoddi gweithiau newydd. Bydd y cyflwyniadau o’r alwad agored hon yn cael eu cyd-gyhoeddi fel albwm digidol ar y cyd gyda thri label cerddoriaeth arbrofol Gymreig:.Amgueddfa Llwch, Listen to the Voice of Fire, a Recordiau Prin.

Artistiaid sain a phobl greadigol sy’n cymryd rhan yn y llif byw

Gan gynnwys: Accretion Entropy, Amy Sterly, J Milo Taylor, Andy Hodges, Angela Davies, etchasketch, Lee Green, Lisa Heledd Jones, David Hopewell, Kathy Hopewell, Andrew Hooker, Melissa Pasut, Graham Hemborough, Thomas Meilleur, Katherine Betteridge, Ynyr Pritchard, Zoe Skoulding, Alan Holmes, Mark Albrow, Carl Osaki Richardson, Glyn Roberts, Bev Craddock, Super Group

Mae ‘Seiniau ar gyfer Tŷ Gwag’ yn prosiect gan Soundlands a Plas Bodfa Projects mewn cydweithrediad â Amgueddfa Llwch, Listen to the Voice of Fire, Oscilloscope a Recordiau Prin.

https://www.plasbodfa.com/sounds-for-an-empty-house