Be sy’ mlaen?

Cynhadledd ar-lein Dysgu a Thyfu




CYNHADLEDD AR- LEIN

DYSGU A THYFU

14.10.2021

Golwg ar gelf gymunedol yng Ngwynedd yn ystod a thu hwnt i Covid-19.

Ymunwch â ni ar Zoom rhwng 9:00-13:00 i ddysgu a thyfu drwy edrych ar beth mae Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd yn ei wneud yn sgil COVID-19. Bydd mudiadau a gweithwyr creadigol yn dod at ei gilydd i gyflwyno a chynnal gweithgareddau i ddangos sut maent wedi gweithio yn ystod ac ar ôl y pandemig. Bydd cyflwyniadau gan; Lyndsey Colbourne, Dr. Denise Baker, Iola Ynyr ar ran Ynys Blastig a mwy!

Cymraeg fydd iaith gyntaf y gynhadledd gyda chyfieithydd ar y pryd.

Cofrestrwch am eich tocyn am ddim trwy eventbrite yma