Be sy’ mlaen?

Khamira




Khamira

Mae’r band cerddoriaeth byd Indo-Gymreig Khamira yn ymweld â Galeri am y tro cynta’ ers 2017.

Yn cynnwys 3 cerddor o Gymru a 3 o India, mae Khamira yn perfformio ‘Cerddoriaeth Byd Byr-fyfyr’ – yn cyfuno cerddoriaeth werin Gymreig, cerddoriaeth glasurol Hindustani, jazz a roc.

Mae Khamira wedi perfformio mewn gwŷliau ledled y byd o India i Dde Korea ers ei taith diwetha’ o Gymru a byddant yn rhyddhau ei hail albym ‘Undod/Unity’ ar ei taith eleni. Ma’ cerddoriaeth Khamira yn gymysgedd llwyr o Gerddoriaeth Byd – dychmygwch gerddoriaeth sinematig Pat Metheny a band ffync Miles Davis o’r 70au wedi ei plethu gyda alawon gwerin Cymru a cherddoriaeth glasurol India.

Noson o gerddoriaeth Byd o Gymru a India i’w gofio. Aelodau Khamira: Tomos Williams – trwmped, Aditya Balani – gitar, Ejaz Hussain – sarangi, llais, Aidan Thorne – bas, Mark O’Connor – dryms, Vishal Nagar – tabla.

Ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Bydd sesiwn Cwestiwn ac Ateb yn dilyn y perfformiad.

19:30 - Dydd Mawrth, 6 Medi

Tocynnau yma