Be sy’ mlaen?

Teulu Pontio yn cyflwyno PIRATE BONNIE




Teulu Pontio yn cyflwyno

PIRATE BONNIE

Fidget Theatre Company

Mae Fidget Theatre yn cyflwyno drama newydd groesawgar, llawn cerddoriaeth ar gyfer môr-ladron 4-8 oed a’u teuluoedd.

Ar fwrdd y llong dewch gyda ni,

Am sbort yn hwylio ar y lli.

Caneuon a straeon môr ladron gawn,

A gwynt y môr yn ein hwyliau llawn.

Mae môr-leidr Bonnie yn chwilio am drysor - ond dim trysor cyffredin, oherwydd nid môr-leidr cyffredin mohoni. Y trysorau mae hi’n chwilio amdanynt yw straeon, straeon coll o amser maith yn ôl am fôr-ladron beiddgar.

Caiff y gynulleidfa eu cyfarch gan Bonnie a’u gwahodd ar fwrdd ei llong i ymuno â’r criw, hwylio a darganfod trysorau. Mae pob trysor y ceir hyd iddo yn chwedl a anghofiwyd am fôr-leidr benywaidd go iawn. Yn arddull nodweddiadol Fidget Theatre, mae’r sioe yn gynnes ac yn ffraeth gyda chaneuon gwreiddiol a rhyngweithio cyfeillgar i blant a’u hoedolion sydd i gyd yn dod yn griw ar fwrdd llong Bonnie.

Felly, ymunwch â’r criw ar fwrdd Antur y Llong Dda! Teimlwch ruthr y gwynt yn yr hwyliau wrth i Bonnie rannu ei thrysor a chanu caneuon yr hen fôr-ladron.

Roedd yna lawer o rannau lle roedden ni’n gallu ymuno - roedden ni’n medru bod yn rhan o’r sioe hefyd, roeddwn i wrth fy modd oherwydd roeddwn i’n actor hefyd - aelod o’r gynulleidfa, 6 oed

Argymhelliad oedran 4+

Hyd y sioe – tua 55 munud

Sadwrn 25 Chwefror

11.30am a 2.30pm

Stiwdio

£6.50 / £22 (tocyn teulu i 4 gydag o leiaf un o dan 18 oed)

www.fidgettheatre.com

Tocynnau yma