Be sy’ mlaen?

Gwyl Gwenllian




Ar Fehefin 12fed byddwn yn dathlu Gwenllian - merch Llywelyn (tywysog olaf Cymru). Cafodd ei herwgipio yn faban a’i magu mewn lleiandy yn Sempringham, Lincolnshire.

Mae cyfres o weithgareddau cymunedol yn canolbwyntio ar ddathlu merched y Carneddau yn cael eu trefnu i goffau’r Dywysoges Gymreig, i’w cynnal rhwng dydd Gwener 9fed o Fehefin a dydd Sul 11eg o Fehefin. Bydd manylion yr holl weithgareddau a diweddariadau yn cael eu rhannu trwy’r grŵp Facebook. Cefnogir yr holl weithgareddau gan Bartneriaeth Ogwen, Partneriaeth Tirwedd y Carneddau, Siop Ogwen a Chyngor Llyfrau Cymru.

Manylion llawn yma