Be sy’ mlaen?

Penwythnos Adrodd Straeon gyda Daniel Morden & Phil Okwedy




Penwythnos Adrodd Straeon

Gwe 16 Mehefin 2023 - Sul 18 Mehefin 2023

Tiwtoriaid / Daniel Morden & Phil Okwedy

Ffi’r Cwrs / O £295 - £350 y pen

Genre / Adrodd Straeon

Iaith / Saesneg

Hanesion gwerin, straeon tylwyth teg a chwedlau ein hynafiaid yw cerrig sylfaen pob stori sydd wedi’i hadrodd erioed, gan gynnwys dramâu, nofelau, barddoniaeth a sgriptiau ffilm. Mae’r hen chwedlau hyn yn dal i ysbrydoli beirdd, artistiaid, awduron a dramodwyr heddiw. Wedi’r cyfan, mae ein straeon traddodiadol – yr arswydus, yr hudolus, y teimladwy a’r dwys – yn diffinio profiadau pobl. Mae cryn fri o’r newydd ar adrodd straeon ar lafar, wrth i grwpiau ymgynnull yn gyson i glywed a rhannu hanesion traddodiadol ym mhob cwr o’r wlad. Cwrs adrodd straeon ar lafar yw hwn – ac mae’n gyfle i ddysgu sut i addasu a chyflwyno’r chwedlau a’r straeon gwerin sy’n rhan o’n hanfod ni fel pobl.

Bydd Daniel a Phil yn trefnu penwythnos o weithgareddau sy’n addas i’r rheiny sy’n newydd sbon i’r grefft o adrodd chwedlau, ond hefyd i rai â pheth profiad eisoes – yn cynnwys chwedleuwyr sydd wedi bod ar gyrsiau tebyg gyda’r ddau diwtor yn y gorffennol.

Archebu yma