Be sy’ mlaen?

Queer Tales from Wales




Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad gwych hwn yn Storiel. Mae ‘Queer Tales from Wales’ yn gwmni theatr meicro wedi’i leoli ger Machynlleth yng nghanolbarth Cymru. Arweinir QTW gan Jane Hoy, sy’n ymchwilio i straeon am ffigurau real a chwedlonol o hanes Cymru - llawer ohonynt yn fenywod yr oedd eu perthnasoedd dyfnaf â menywod eraill. Mae Jane yn troi’r straeon hyn yn sgriptiau bywiog y mae’n eu perfformio gyda’i phartner Helen Sandler - yn aml gyda chyfle i’r gynulleidfa gymryd rhan.

£15 yn cynnwys cacen a panad

24 Mehefin 3yp - 4.15yp

I archebu lle ffoniwch 01248 353368

**

Os hoffech ddysgu mwy am ferched Llangollen, darllenwch ein post blog yma**