Be sy’ mlaen?

Dementia Day




Diwrnod Dementia

Codi Ymwybyddiaeth

28/06/2023

Mae Dementia Gwynedd yn eich gwahodd i Galeri ar gyfer diwrnod arbennig i godi ymwybyddiaeth am ddementia. Bydd cyfle i ddysgu mwy am ddementia a chymryd rhan mewn gweithdai rhyngweithiol. Gallwch ymuno â ni am un, dau neu bob un o’r digwyddiadau sydd ar gael…. yn rhad ac am ddim! Croeso cynnes i bawb a hoffai ddod draw.

Dylid cofrestru drwy’r linc Eventbrite (nid oes tocynnau ar gael drwy Galeri ar gyfer y digwyddiad penodol yma)

Rhaglen y dydd

10:00-16:00- Arddangosfa ffotograffiaeth - Perthnasau

10:30-11:30- Sesiwn Ffrindiau Dementia & Profiad VR

12:00-13:00- Gweithdy Dawns i Bawb – Cymru: Ni

14:00-16:00- Ffilm “The World Turned Upside Down”

10:00-16:00- Arddangosfa ffotograffiaeth – Perthnasau.

Mae’r arddangosfa hon o ganlyniad cydweithio rhwng Dementia Actif Gwynedd, cynhyrchiad diweddar o’r opera Y Bont a’r ffotograffydd Ian Smith. Roedd yn rhan o brosiect a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru o’r enw ‘Byw gyda dementia: Archwiliad operatig i hyrwyddo dealltwriaeth a lleihau stigma’. Croeso cynnes i chdi ddod draw i grwydro trwy’r arddangosfa a mwynhau’r lluniau arbennig yma.

10:30-11:30- Sesiwn Ffrindiau Dementia & profiad VR.

Sesiwn anffurfiol i’ch helpu i ddysgu mwy am ddementia, sut mae’n effeithio ar yr unigolyn a’r hyn y gallwch ei wneud i helpu a chefnogi pobl sydd wedi eu effeithio â dementia yn eich cymuned. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i roi cynnig ar brofiad rhithwir (VR) sy’n eich galluogi i ddeall sut mae’n teimlo i fod yn byw gyda dementia.

12:00-13:00- Dawns i Bawb - Gweithdy dawns (Cymru: Ni)

Mae Dawns i Bawb yn sefydliad dawns yn y gymuned i Ogledd-Orllewin Cymru ac yn datblygu darpariaeth dawns dros Wynedd, Conwy ac Ynys Môn. Mae nhw’n credu bod pawb yn gallu dawnsio ac yn cyd-weithio a chreu gyda phobl a chymunedau, ac ymarferwyr dawns amatur a phroffesiynol, coreograffwyr a chwmniau. Bydd Dawns i Bawb yn cyflwyno perfformiad dawns rhyngweithiol CYMRU: NI. Mae’r perfformiad yn rhan o’r prosiect ‘Dance Well’ sy’n datblygu gweithgaredd dawns i wella iechyd a lles ein cymunedau. Dewch draw i wylio’r perfformiad ac efallai cymryd rhan mewn rhai symudiadau dawns ysgafn.

14:00-16:00 Dangosiad ffilm The World Turned Upside Down.

Dyma gwahoddiad i ddangosiad o The World Turned Upside Down – ffilm sy’n edrych ar realiti byw gyda dementia a gofalu am berson sy’n byw gyda dementia.   Cafodd ei chreu ar y cyd fel rhan o broject ymchwil IDEAL gyda phobl sy’n byw gyda dementia, ac mae’n dangos drama a’r broses o’i chynhyrchu ac ymateb y gynulleidfa yn ystod y perfformiad.⁠ Mae’n trafod profiadau’r cymeriadau o ddementia mewn sefyllfaoedd gwahanol, o dderbyn diagnosis, i rannu’r diagnosis gyda’r teulu a gofalu am berson sy’n byw gyda dementia. Mae’r ffilm yn Saesneg ac yn 1 awr 20 munud o hyd. Bydd cyfle i drafod themâu’r ffilm yn ystod y brêc ac ar y diwedd. Bydd Dr Catherine Charlwood (Rheolwr Cyfieithu Ymchwil IDEAL) wrth law i ateb cwestiynau a rhannu cyfleoedd ymchwil gyda chi.

I archebu lle yn unrhyw un neu bob un o’r gweithgareddau cliciwch ar y ddolen:

www.eventbrite.comdirwnoddementia

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:- Emma Quaeck, Cydlynydd Dementia Gwynedd 07768 988095emmajaynequaeck@gwynedd.llyw.cymru

10:00 - Dydd Mercher, 28 Mehefin