Be sy’ mlaen?

Deian a Loli Y Ribidirew Olaf




Frân Wen yn cyflwyno

Deian a Loli

Y Ribidirew Olaf

Dani gyd yn gorfod tyfu i fyny rhywbryd. Neu ydan ni?

Mae hi’n ddiwrnod cyntaf Deian a Loli yn yr Ysgol fawr! Mae Deian wedi cyffroi’n lân ac ar ei draed ers cyn cŵn Caer - ond dydi Loli ddim isio mynd. Ar ben bob dim, mae goriadau’r car ar goll ac mae Loli’n mynnu mai eu ffrind dychmygol sydd wedi eu dwyn nhw - er fod Mam, Dad a Deian yn dadlau nad ydi ffrindiau dychmygol yn bod.

Mae Deian yn sylweddoli nad oes ganddo fawr o ddewis ond ymuno efo Loli i ddweud y gair hud, a rhewi eu rhieni - gan fynd ar drywydd y goriadau coll ar antur fwyaf eu bywydau.

A fyddan nhw’n llwyddo i ddod o hyd i’w ffrind dychmygol cyn iddo fo ddiflannu am byth? A oes peryg iddyn nhw golli eu pwerau hudol wrth dyfu i fyny?

Dewch i brofi sioe theatrig gyntaf Deian a Loli wrth i’r efeilliaid direidus deithio i ben draw dychmyg a thu hwnt.

3 Mai 10am + 6pm – BSL a Sain Ddisgrifiad

Mawrth 30 Ebrill - Iau 2 Mai, 10am + 1pm

Gwener 3 Mai, 10am + 6pm* (BSL + AD)

Sadwrn 4 Mai, 11am + 2pm

Theatr Bryn Terfel

Safonol: £17.50

Dros 60 / Plant (dan 18) / Myfyrwyr: £12.50

Archebu tocynnau yma