Be sy’ mlaen?

TONIC - Ben Twthill




TONIC - Ben Twthill

Galeri

Ymunwch a ni am awr yng nghwmni’r triawd hwyliog o Gaernarfon, Ben Twthill. Gan gyfuno doniau cerddorol Gethin Thomas (Gwibdaith Hen Fran) a Neil ‘Maffia’ Williams, mae’r band wedi bod yn swyno cynulleidfaoedd dros y blynyddoedd diwethaf gyda’i hiwmor unigryw a’u caneuon bachog.

Mae cyngherddau TONIC yn rai hamddenol eu naws ac yn hygyrch ac agored i bawb. Cyngerdd yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd paned i ddilyn (am ddim gyda’ch tocyn).

£6 / £7

*[Archebu tocynnau yma](https://galericaernarfon.ticketsolve.com/ticketbooth/shows/873655654/events/129524670?_gl=1xibxlo_gaNDMwMzA0MTQwLjE3MTM0NTk1MjQ._ga_YVQGHD1MHYMTcxMzQ1OTUyNC4xLjEuMTcxMzQ1OTk4OC4wLjAuMA..)**