Be sy’ mlaen?

Operation Julie




Theatr Na nÓg

OPERATION JULIE

Mae’r sioe lwyddiannus a werthodd allan haf diwethaf yn ôl i ‘prog-rocio’r DU.

Mae Theatr na nÓg a Chanolfan Celfyddydau Aberystwyth yn cyflwyno un o’r straeon gwir fwyaf anhygoel i ddod allan o Gymru erioed… OPERATION JULIE.

Mae ‘Breaking Bad’ yn cyfuno â ‘The Good Life’ yn y ddrama anarchaidd hon gyda cherddoriaeth ‘prog-rock’ o’r 70au, wedi’i berfformio’n fyw ar lwyfan gan 9 actor-gerddorion talentog. Mae’n adrodd stori anhygoel yr ymgyrch cuddiedig arweiniodd at ddwsinau o arestiadau a darganfyddiad LSD gwerth £100 miliwn, a chwalodd un o rwydweithiau cyffuriau mwyaf rhyfeddol a welodd y byd erioed.

Canllaw Oed: 14+

SGWRS AR ÔL SIOE - NOS FERCHER 15 MAI

Dyma’ch cyfle i gwrdd â rhywun oedd yn rhan o’r Operation Julie go iawn!

Bydd y sesiwn ar ôl y sioe yn sgwrs gyda Geinor Styles, awdur a chyfarwyddydd sioe Operation Julie; Alston ‘Smiles’ Hughes, cyn-ddosbarthwr LSD ac un o ddwsinau a arestiwyd fel rhan o Operation Julie; ac Andy Roberts, hanesydd seicedelig ac awdur bywgraffiad Smiles, ‘In Search of Smiles’. Bydd y digwyddiad yn y theatr yn dilyn perfformiad Operation Julie a bydd yn gyfle i ofyn cwestiynau am y sioe a’r straeon gwir a’i hysbrydolodd.

Mae’r digwyddiad yn cyd-fynd yn berffaith gyda’r sioe, gan roi mewnwelediad i gynulleidfaoedd i sut brofiad oedd hi i fyw yn ystod Operation Julie. Mae Andy a Smiles yn agored iawn am eu profiadau yn y 70au, ac mae Geinor yn darparu ei hochr hi o bersbectif y sioe, gan drafod y broses greadigol a sut y trodd hi ymgyrch heddlu cudd mewn i sioe gerdd lwyddiannus.

Fydd y Q&A yn para tua 30-45 munud.

Nos Fercher 15 Mai, 7.30pm

Nos Iau 16 Mai, 7.30pm

Nos Wener 17 Mai, 7.30pm

P’nawn Sadwrn 18 Mai, 2.30pm

Nos Sadwrn 18 Mai, 7.30pm

Theatr Bryn Terfel

£25 / £23

Archebu tocynnau yma