Be sy’ mlaen?

Parti cynhesu Tonnau - Puerto Candelaria




Puerto Candelaria (Colombia) & Tonnau DJ’s

Mae Neuadd Ogwen a Gŵyl Tonnau yn falch o gyflwyno Puerto Candelaria sef enillwyr Latin GRAMMY 2019 (Albwm Gorau Cumbia) ar gyfer parti Cynhesu Tonnau. Mae Puerto Candelaria yn fand arloesol ac angerddol sydd wedi bod yn rhan o’r mudiad i helpu ailddiffinio diwydiant cerddoriaeth America Ladin dros y ddau ddegawd diwethaf. Daw’r gefnogaeth gan Djs preswyl Gŵyl Tonnau, Elgan a Piwi, sy’n chwarae cymysgedd o gerddoriaeth a gwreiddiau Americanaidd Ladin a Throfannol sy’n adlewyrchu sŵn Gŵyl Tonnau – a gynhelir ar ddechrau mis Gorffennaf ar Ynys Môn.

Neuadd Ogwen

Mai 31 2024

£20 Achebu tocynnau yma