Newyddion

Pob plentyn yng Nghymru i gael cyfle i chwarae offeryn wrth i £13m gael ei fuddsoddi yn y gwasanaeth cerdd cenedlaethol



Bydd pob plentyn yng Nghymru yn cael mynediad am ddim i offeryn cerdd o fis Medi ymlaen fel rhan o gynllun addysg cerddoriaeth newydd llywodraeth Cymru.

Bydd cyllid ar gyfer addysgu cerddoriaeth yn codi o £1.5mi £4.5m y flwyddyn, am y tair blynedd nesaf.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, y byddai’r Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol newydd yn sicrhau bod cerddoriaeth ar gael i holl blant Cymru.

Bydd disgyblion cynradd hefyd yn cael gwerth hanner tymor o ddysgu gan gerddor.