Be sy’ mlaen?

Beyond the Border, prif Ŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru




Mae Beyond the Border, Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru, wedi cyhoeddi digwyddiad undydd ar-lein arbennig i nodi’r achlysur pan fyddai’r ŵyl wedi bod yn mynd rhagddi yn Ninefwr, Sir Gaerfyrddin.

Bydd Ailddychmygu: Beyond the Border Ar-lein yn ŵyl fer 1 diwrnod ddydd Sadwrn 4 Gorffennaf 2020, a gyflwynir ar dudalen Facebook a sianel YouTube Beyond the Border, gyda chyfuniad o ffrydio byw a chwedleua a cherddoriaeth wedi’u recordio ymlaen llaw yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhai sesiynau yn rhad ac am ddim a chodir tâl am eraill.

Wrth siarad am yr ŵyl ar-lein, dywedodd Naomi Wilds: “Mae straeon yn bwysicach nag erioed. Maent yn ein porthi mewn cyfnodau anodd – maent yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n wirioneddol bwysig, neu’n rhoi cyfle i ni ddianc fel y gallwn gael seibiant o wirioneddau llym ein byd. Yn bwysig, maent yn ein helpu i gysylltu gyda’n gilydd ac, yn hollbwysig, ein helpu i ddychmygu ffyrdd newydd i ddod. Ers dechrau’r cyfnod clo buom yn rhannu straeon byr ar-lein, yn rhedeg gweminarau cefnogaeth wythnosol a newid sut y buom yn cyflwyno prosiectau i gadw mewn cysylltiad gyda’i gilydd – mae’r digwyddiad ar-lein arbennig yma yn helpu pawb ohonom i edrych ymlaen gyda’n gilydd.”

Mae manylion pellach am Ailddychmygu: Beyond the Border Online ar gael yn beyondtheborder.com a sianeli cyfryngau cymdeithasol Facebook ac YouTube.