Be sy’ mlaen?

Noson yng Nghwmni Gruffydd Wyn




Yn lais ac yn wyneb cyfarwydd i ni yma yng Nghymru bellach, dyma noson yng nghwmni’r canwr talentog o Amlwch, Môn – Gruffydd Wyn.

Nol yn 2018, daeth Gruff i amlygrwydd ar sgrinau teledu ar hyd a lled Prydain a thu hwnt wrth iddo ymddangos ar raglen boblogaidd “Britain’s Got Talent”. Penderfynoddy beirniad Amanda Holden bwyso’r “botwm aur” a gwarantu lle Gruff yn y rownd cyn-derfynol. Cyrhaeddodd Gruff y rownd derfynol gan fethu allan ar y brif wobr – ond mae’r profiad a’r llwyfan yma wedi gweld Gruffydd yn gallu dilyn ei freuddwyd a bod yn artist proffesiynol.

Mae wedi teithio’r wlad fel artist unigol a hefyd wedi perfformio ar deithiau Only Men Aloud a “Diversity” i arenâu llawn ar draws Prydain.

Yn 2020, daeth Gruff yn fuddigol yng nghystadleuaeth flynyddol Cân i Gymru gyda’i gân wreiddiol, “Cyn i’r Llenni Gau”. Rhyddhaodd ei albwm cyntaf “Chapter One” hefyd yn 2020.

Noson ddwy-ieithog.

30.10.21 @ 19:30

Archebwch tocynnau yma